beth

Cyfieithu Ysgrifenedig
Gellir disgrifio cyfieithu fel crefft, celfyddyd neu hyd yn oed wyddoniaeth, ond mae'n fwy na dim ond geiriau. Mae'n rhaid deall bwriad yr awdur yn yr iaith wreiddiol a chyfleu'r bwriad hwnnw yn yr iaith darged - yn gywir, yn gynnil ac yn greadigol.

Mae gan Cwmni Cyfieithu Canna brofiad helaeth ym mhob maes cyfieithu ysgrifenedig yn cynnwys iechyd, addysg, llywodraeth ganolog, llywodraeth leol a'r celfyddydau. Rydym hefyd yn gweithio gydag ystod eang o gleientiaid o'r sector preifat a'r trydydd sector.

Prawfddarllen a Golygu
O gymeradwyo copi wedi'i ddylunio i adolygu gwefan gyfan - yn ein swyddfeydd ni neu eich rhai chi - byddwn yn fwy na pharod i drafod eich gofynion.

Cyfieithu ar y Pryd
Gall Canna ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd mewn unrhyw ddigwyddiad - o gyfweliadau a chyfarfodydd bwrdd i gynadleddau mawr.

Dyma rai o'n cwsmeriaid bodlon:

  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Yr Asiantaeth Safonau Bwyd
  • Cyngor Celfyddydau Cymru
  • Heddlu Dyfed Powys
  • Tros Gynnal
  • Greenfield Media
AWTI