pwy
Cwmni ifanc o Gaerdydd yw Cwmni Cyfieithu Canna a chanddo gyfoeth o brofiad yn y diwydiant cyfieithu Cymraeg/Saesneg. Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth eang o gleientiaid o'r sector cyhoeddus a phreifat - rhestr sy'n prysur gynyddu.
Chi, y cwsmer, sy'n cael y flaenoriaeth. P'un a ydych yn fusnes bach neu'n gorff cyhoeddus o bwys, p'un a oes angen poster syml arnoch neu adroddiad hirfaith, ein nod yw cynnig y gwasanaeth gorau posibl i chi, yn brydlon ac am bris rhesymol.
Ac i brofi ein bod yn gwmni gwerth ein halen, rydym yn aelodau llawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru ar gyfer cyfieithu ysgrifenedig a chyfieithu ar y pryd.